top of page

perfformiadau

Mae gan Pauline gefndir perfformio yn y meysydd actio a chanu. Ar ôl gweithio yn theatr ymylol a chymunedol gan gynnwys taith o sioe a gyfarwyddwyd gan Meredith Monk trwy Gymru i gyd.

 

Mae hi wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau amrywiol fel cyfarwyddwraig gerdd, gan gynnwys performiadau cymunedol graddfa fawr yn Banbury a Ynysoedd Erch ac am nifer o flynyddoedd cyfarwyddodd prosiect theatr oedd yn integreiddio perfformwyr gyda a heb anableddau.

 

Mae hi wedi perfformio mewn bandiau gwerin yn chwarae piano accordion a chwiban Gwyddelig ac  ar hyn o bryd mae Pauline yn perfformio yn bennaf fel cantores.

 

Mae prosiectau perfformio diweddar yn cynnwys:

Adlais - sioe stori a chân gyda Michael Harvey.

Corws Barddoniaeth Conran - perfformio cerddi Tony Conran  

Prosiect Brecht  - cydweithio rhwng Frankie Armstrong a'r ‘Chalk Circle Collective’ i berfformio caneuon gan Brecht/Weill  a chaneuon o 'The Caucasian Chalk Circle' (cerddoriaeth Kirsty Martin).

bottom of page