top of page

hyfforddiant

Hyfforddiant Celfyddydau mewn Iechyd :

Mae gan Pauline hanes lwyddiannus o ddarparu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer artistiaid, gofalwyr a staff iechyd sy'n dymuno cyflwyno gweithdai creadigol mewn sefydliadau iechyd.

 

 

Mae hi wedi ysgrifennu rhaglen hyfforddiant rhagarweiniol Celfyddydau Mewn Iechyd, achredwyd gan Agored Cymru

(NWOCN gynt ) ac arweiniodd y rhaglen yng Ngogledd Cymru rhwng 1998 a 2013 pan drosglwyddodd y rôl er mwyn symud i Gaerdydd.

 

 

Mae hi wedi cyflwyno sawl diwrnod o hyfforddiant ar gyfer Cyngor Gwynedd ac ar gyfer y prosiect Celfyddydau mewn Iechyd  'Haul' yn Aberystwyth a ganolbwyntiodd ar ddefnyddio gweithgareddau creadigol gyda phobl hŷn â dementia. Mae Pauline wedi cyflwyno prosiectau hyfforddi Celfyddydau mewn Iechyd i Gyngor Gwynedd hefyd o'r enw "Creadigrwydd Nawr!" mewn cartrefi gofal pobl hŷn, gan gynnwys y rheiny â dementia . 

 

 

Hyfforddiant Arweinwyr Canu :

Mae Pauline wedi arwain llawer o sesiynau hyfforddi ar gyfer arweinwyr canu ac ar hyn o bryd yn cyd - arwain bob blwyddyn y NVPN hyfforddiant/datblygu proffesiynol "Carry it On" ar gyfer arweinwyr canu gyda Frankie Armstrong a Rowena Whitehead.Mae gan hi hefyd brofiad o fentora a goruchwylio arweinwyr canu.

 

"Roedd y cwrs yn ardderchog"

“Mae Pauline yn tiwtor wych”

“Mae'r cwrs yn weithfawr iawn”

 

bottom of page