top of page

celfyddydau a iechyd

Mae Pauline yn gallu darparu prosiectau canu neu brosiectau celfyddydol cyffredinol mewn lleoliadau iechyd amrywiol. Mae hi wedi bod yn arloeswr yn y maes Celfyddydau mewn Iechyd yng Nghymru gan arwain prosiectau canu a celfyddydau mewn ysbytai, cartrefi gofal, canolfannau iechyd meddwl, ysgolion arbennig, gwasanaethau deuluoedd gwledig ac gwasanaethau gwirfoddol amrywiol eraill. 

 

Mae hi'n aelod sylfaenydd Gwynedd ‘Creu Iechyd’, grŵp llywio Celfyddydau mewn Iechyd a mae hi wedi bod yn rhan o’r gwaith hyrwyddo a datblygu y maes pwysig hwn, yn ogystal â darparu prosiectau ei hun. Ysgrifennodd a darparodd y cwrs hyfforddi cyntaf yng Nghymru ar gyfer ymarferwyr sy'n dymuno cyflwyno gweithdai Celfyddydau mewn Iechyd, achredwyd gan Agored Cymru (NWOCN gynt). (Mae  mwy o wybodaeth ar y dudalen 'Hyfforddiant').

 

"Roeddwn i'n teimlo'n ddiogel ac yn falch o fod yn cymryd rhan. Ar ddiwedd bob sesiwn roeddwn i eisiau aros yn yr ystafell."

bottom of page