top of page

celfyddydau cymunedol

Y mae Pauline wrth ei bodd yn cydlynu prosiectau celfyddydau cymunedol. Mae hi wedi arwain llawer gan ganolbwyntio ar ddwyn bobl ynghyd o wahanol oedrannau, cefndiroedd a galluoedd mewn cyfnewidfa gyffrous o straeon, celf weledol, cerddoriaeth, canu a gweithgareddau creadigol arall.

 

Mae hi’n mwynhau  gweithio fel rhan o dîm creadigol a chyd-drefnu a goruchwylio'r cyfan. "Yma ac Acw" ym Mangor oedd  y prosiect diweddaraf o'r math hwn yn, a gynhaliwyd gan Pontio ac a ddathlodd gymdeithas ddwyieithog ac aml-ethnig Bangor trwy lygaid plant a phobl hŷn leol. 

 

 

“Roedd y profiad yn wahanol iawn i beth fuasai’r disgyblion fel arfer yn ei brofi. Dwi’n credu eu bod wedi gwerthfawrogi dod at ei gilydd gydag ysgolion eraill ar y diwedd."

 

"Pawb a oedd yn ymwneud a’r prosiect yn llawn

brwdfrydedd.”

bottom of page